Cwrdd mewn cae

Mae ymwneud, gwrando a siarad yn sgiliau cyfathrebu allweddol. I Gomisiynydd y Gymraeg mae hyn yn golygu sefyll mewn cae - yn llythrennol. Yn ein herthygl ddwyieithog cyntaf rydym yn edrych ar sut beth yw ymwneud i sefydliad ble mae diwylliant yn elfen allweddol.

Gwyn Williams

Dwi’n siŵr ‘sa ni gyd yn cytuno mae’r ffordd orau o “ymwneud” yw i ni, y cyfathrebwyr, fynd ar y bobl yn hytrach na fel arall.

Dyna pam mae Comisiynydd y Gymraeg yn mynychu tri o ddigwyddiadau mawr Cymru, gan roi’r cyfle i dros hanner miliwn o bobl alw heibio i ddweud “helo”, i gwyno, i wneud sylw, i awgrymu, mynnu, holi a pob ffurf ar eiriau arall sy’n bosib mewn sgwrs.

Yr hyn sy’n gyffredin rhwng y tri digwyddiad yw eu bod i gyd yn digwydd mewn caeau. Mae Eisteddfod yr Urdd yn denu tua 100,000 o bobl bob blwyddyn ar draws y chwe diwrnod. Yna mae tua 150,000 o bobl yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr wyth diwrnod.

Sioe Amaethyddol Cymru yw’r sioe amaethyddol fwyaf ym Mhrydain (os nad Ewrop) erbyn hyn. Am bedwar diwrnod bob blwyddyn mae’r caeau yn Llanelwedd yn ffrwydriaid o liw a sŵn wrth i’r genedl gyfan ddathlu’r diwydiant a’r diwylliant chefn gwlad.  Yn ogystal ag ymwelwyr o gefndir amaethyddol mae’r sioe yn denu o’r trefi a’r dinasoedd hefyd. Mae’r Sioe hefyd yn boblogaidd gyda gwleidyddion - eleni am yr ail flwyddyn yn olynol roedd Prif Weinidog Prydain, a’r Ysgrifennydd Amaeth yn bresennol. Wrth gwrs mae Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidog dros Fwyd ac Amaeth yn ymwelwyr cyson. Felly hefyd unrhyw AC neu AS sydd efo darn o dir amaethyddol yn yr etholaeth!

Ond beth mae “ymwneud” yn ei olygu yn y sioeau hyn? Mae’n golygu diwrnodau hir - mae’r Sioe yn cychwyn am 8 y bore a da ni’n cau’r stondin am 7 yr hwyr. Mae’n golygu mynd a dillad glaw ac eli haul. Mae’n golygu bod a dim syniad beth fydd y cwestiwn neu sylw nesa “Da chi’m yn gwneud digon”, “Da chi’n gwneud gormod”, “Fe ddyla’ chi fod yn gwneud rhywbeth arall”. Mae’n golygu gwybod ble mae’r toiledau agosâ (ar eich cyfer chi, eich staff, a’r aelodau o’r cyhoedd sy’n meddwl dyna pam bod chi’n sefyll yna drwy’r dydd!)

Mae o hefyd yn golygu bod yn barod i bobl eich herio chi a’ch sefydliad. Mae’n golygu gorfod egluro, o’r dechrau’n deg pam y sefydlwyd y corff, be da chi’n ei wneud, neu ddim yn ei wneud, ac esbonio sut, er bod hwnna’n syniad da - byddai ddim yn gyfreithiol i ni wneud hynny! Ond yn bennaf mae o’n golygu gwenu, gwrando, egluro a siarad efo pobl. Neu fel mae’r llyfrau’n dweud “ymwneud”.

Gwyn Williams yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Comisiynydd y Gymraeg.

Print Friendly and PDF